![]() |
Mae Pecyn Addysgol Gofalu am Erw Duw yn addas i blant hyd at tua un ar ddeg oed. Mae wedi’i greu ar gyfer athrawon sy’n dysgu plant yn y Blynyddoedd Cynnar ac yn yr adran Cynradd. Yn y pecyn ceir cysylltiadau cwricwlwm Cymraeg a Saesneg. Hefyd, mae llawer o’r gweithgareddau’n addas ar gyfer clybiau ieuenctid, gan gynnwys Ysgolion Sul a grwpiau o Sgowtiaid a Guides (mae’r bathodynnau a’r heriau wedi’u rhestru). Mae safleoedd claddu’n llefydd rhagorol ar gyfer cymryd rhan yng nghynllun Dyfarniadau John Muir hefyd, ac mae ffurflen gais wedi’i chynnwys ar gyfer hyn. Yn seiliedig ar bump thema, mae’r pecyn yn cynnwys cyfoeth o weithgareddau a syniadau dysgu. Y pump thema yw:
|
Mae’r pecyn addysgol wedi cael ei rannu’n 3 rhan:
-
- Nodiadau Athrawon / Arweinwyr (y teitl yw Pecyn Addysgol Mynwentydd a Safleoedd Claddu)
- Taflenni Gweithgarwch
- Fframiau Ysgrifennu
Dechreuwch drwy edrych ar y ddogfen Nodiadau Athrawon / Arweinwyr, sy’n cyflwyno cefndir i ymweliadau â safleoedd claddu ac yn amlinellu’r gweithgareddau amrywiol ar gyfer pob un o’r themâu. Mae’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer pob gweithgaredd wedi’u rhestru’n glir. Bydd y rhain yn cynnwys y Taflenni Gweithgarwch yn aml.
Defnyddiwch y Fframiau Ysgrifennu gyda gwaith y plant yn ôl yn yr ysgol ac ar gyfer gwneud posteri a digwyddiadau hysbysebu.