CYLLIDWR; CYFOETH NATURIOL CYMRU
Hydref 2020 – Mawrth 2023
Ydych chi’n ymwneud â gofalu am fynwent neu safle claddu?
Ydi cael cynllun 3 blynedd sy’n realistig ar gyfer eich adnoddau ac sy’n briodol i’ch safle’n swnio’n atyniadol i chi? Hoffech chi gael mwy o gefnogaeth i wneud y penderfyniadau rheoli cywir? Ydych chi yn unrhyw un o’r pum sir yma – Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Ceredigion neu Bowys?
Os felly, efallai y gallwn ni helpu…..
Ychydig o gefndir
Efallai mai mynwent neu safle claddu yw’r darn mwyaf hynafol o dir caeedig mewn plwyf, tref neu ddinas. Bydd y glaswelltir wedi cael llonydd cymharol, gan ailhadu’n naturiol am gannoedd os nad miloedd o flynyddoedd. Bydd hefyd wedi cael ei dorri ar gyfer gwair a’i bori gan anifeiliaid yn ystod ei gyfnod fel safle claddu. Mantais y parhad rheoli yma dros gyfnod hir iawn yw amrywiaeth gyfoethog o laswelltau, blodau ac anifeiliaid.
Mae’r hen laswelltir yma, sydd wedi cael llonydd cymharol neu ‘heb ei wella’, yn brin bellach yn y DU. Ers y 1940au mae mwy na 97% o laswelltir sy’n llawn blodau, a oedd unwaith yn gyffredin iawn yng nghefn gwlad, wedi diflannu. Mae’r glaswelltir hynafol a geir mewn hen safleoedd claddu yn weddillion y cynefin hwn a arferai fod yn gyffredin ar un adeg ac mae’r safleoedd hyn wedi dod yn Arch Noa ar gyfer llawer o rywogaethau.
Y Materion
Mae cannoedd o safleoedd claddu yn yr ardaloedd yng nghwmpas y prosiect yma. Mae pob un yn swatio yng nghalon y cymunedau – yn emosiynol ac yn ddaearyddol. Er bod y safleoedd yn amrywiol – o fuarthau eglwysi a chapeli bychain gwledig i fynwentydd trefol mawr, mae ganddynt nodweddion ecolegol pwysig yn gyffredin:
- Mae bron pob un yn cynnwys glaswelltir lled-naturiol sydd â chyfoeth o rywogaethau;
- Ar gyfer y rhan fwyaf o ardaloedd, y darn hwn yw’r unig weddillion o laswelltir lled-naturiol a geir yn yr ardal;
- Maent yn darparu lloches i lawer o rywogaethau ond mae llawer o safleoedd yn dioddef o danreoli ac mae bioamrywiaeth yn cael ei cholli;
- Mae gan y rhan fwyaf o safleoedd goed yw hynafol a feteran sydd angen gofal;
- Mae rhywogaethau estron ymledol, fel canclwm Japan, yn broblem gynyddol.
Sut gall y prosiect helpu
Diben y prosiect hwn yw gweithio gyda grwpiau sy’n rheoli safleoedd claddu ar draws ardaloedd dethol o Gymru er mwyn helpu i ddiogelu a gwella eu glaswelltir sydd â chyfoeth o flodau, ac ymgysylltu â’r gymuned ehangach. Diolch i gefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, gallwn gynnig amrywiaeth o wasanaethau am ddim i reolwyr safleoedd claddu. Bydd y grwpiau cysylltiedig yn gallu gwneud y canlynol:
- Derbyn hyfforddiant am ddim ar amrywiaeth o bynciau fel rheoli glaswelltir, cynnwys y gymuned, arolygu rhywogaethau, gofalu am goed feteran, ysgrifennu briff rheoli;
- Cynnal arolwg glaswelltir ar eich safle claddu (nifer cyfyngedig o leoedd ar gyfer hyn!);
- Mwynhau rhwydwaith cefnogol o gymorth gan gymheiriaid gyda mewnbwn gan arbenigwyr;
- Cael mynediad i’n deunyddiau cynghori gwell a newydd;
- Cael map sylfaen o’ch safle i’ch helpu i greu eich Briff Rheoli eich hun;
- Derbyn cefnogaeth i ysgrifennu Briff Rheoli ar gyfer eich safle. Gall Briffiau Rheoli eich helpu i gynllunio eich rheolaeth fel ei bod yn briodol i’ch safle ac yn realistig ar gyfer eich adnoddau. Gall briffiau helpu wrth wneud cais i gyrff cyllido hefyd!
- Derbyn cyngor am eich coed hynafol/feteran (bydd ein hadnoddau ar gyfer hyn yn canolbwyntio ar Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych)
- Cael arddangos eich safle fel safle arfer gorau neu astudiaeth achos i eraill gael eu hysbrydoli ganddo a dysgu oddi wrtho.
I gael mwy o wybodaeth neu i gofrestru diddordeb, cysylltwch â Mick Clifton, y Rheolwr Prosiect ar [email protected], rhif ffôn 01691 780733. Chwiliwch amdanom ni yn www.caringforgodsacre.org.uk