Description
Mae gan y Pecyn Gweithgarwch yma gyfoeth o wybodaeth i helpu gyda rheoli mynwent eich eglwys, eich mynwent gyhoeddus neu eich safle claddu lleol yn sensitif.
Ceir canllawiau ar reoli cynefinoedd bywyd gwyllt fel glaswelltir a choed, a nodweddion arbennig fel pyrth mynwentydd, waliau terfyn a hen waith carreg. Hefyd cewch wybodaeth am sut mae cynnwys eraill a sut mae gwneud defnydd o’r mannau hyn ar gyfer dysgu a gweithgarwch cymunedol.
Mae’r Pecyn Gweithgarwch yn rhoi sylw i amrywiaeth eang o bynciau fel bod posib edrych ynddo i ateb cwestiynau bach a mawr:
- Beth gall ein gwirfoddolwyr ei wneud i gadw coed yn iach ac yn ddiogel?
- Pa ddarn ydi’r darn gorau o laswellt i’w dorri’n fyr a pha ddarn ddylid ei adael i dyfu’n hirach?
- Sut gallwn ni annog mwy o anifeiliaid fel adar a glöynnod byw i ymweld â’n safle ni?
- Pa weithgareddau fedrwn ni eu cynnig i bobl ifanc?